Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Chwaraeon enillydd 2016

Daeth Chris Coleman yn rheolwr tîm pêl-droed Cymru yn dilyn marwolaeth drasig Gary Speed yn 2011. Cafodd ei ddewis fel Teilyngwr ar gyfer y Wobr Dewi Sant am Chwaraeon  oherwydd ei rôl yn arwain tîm pêl-droed Cymru i’r Bencampwriaeth Ewropeaidd yn 2016. Dyma’r tro cyntaf i’r tîm gyrraedd rownd derfynol prif bencampwriaeth ers 1958.

Cyn dod yn rheolwr clwb pêl-droed, roedd Chris yn chwaraewr pêl-droed proffesiynol, a chwaraeodd dros Gymru 32 o weithiau. Chwaraeodd e i dimau Dinas Abertawe, Crystal Palace, Blackburn Rovers a Fulham.

Yn Fulham y dechreuodd ei yrfa rheoli, cyn ymuno â Real Sociedad yn Sbaen. Mae hefyd wedi rheoli Coventry City a Larissa yng Ngroeg cyn dod yn rheolwr ar dim Cymru yn 2012.

Mae Coleman wedi derbyn cymeradwyaeth am ei allu i godi ysbryd tȋm Cymru yn ystod cyfnod anodd yn dilyn marwolaeth Gary Speed. Dilynodd ôl-troed ei ragflaenydd mewn modd brwdfrydig ac aeth ati i gyflawni’r hyn yr oedd Speed wedi ei gychwyn. Mae ei angerdd diamheuol i lwyddo yn amlwg wrth iddo ymwneud â chefnogwyr a chwaraewyr.