Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Ysbryd y gymuned

Mae Community Furniture Aid yn elusen sydd wedi ennill gwobrau a redir gan wirfoddolwyr. Maen nhw'n darparu pecynnau o ddodrefn drwy roddion gan y cyhoedd, ar gyfer y rheini sy'n byw mewn tlodi a’r rhai mae'n bosibl eu bod wedi dianc o ddigartrefedd. Mae'r pecynnau'n cynnwys popeth sydd ei angen i ddechrau o'r dechrau mewn cartref newydd. Ers 2014 mae'r elusen wedi dodrefnu 350 o gartrefi'n llawn, wedi darparu pecyn rhannol i 150 cartref arall ac wedi achub 350 tunnell o hen ddodrefn rhag safleoedd tirlenwi.

Mae tlodi cudd a digartrefedd yn broblemau mawr ledled y wlad, a phenderfynodd grŵp o unigolion weithredu yn eu hardal nhw. Ar ôl cysylltu ag asiantaethau cymorth lleol a'r cyngor lleol, daeth y cysyniad o 'becyn' dodrefn i'r amlwg – pecyn nad yw'n cynnwys dodrefn yn unig, ond popeth sydd ei angen i wneud tŷ yn gartref.

Cyfnewidiodd y sylfaenwyr eu car am fan, a phrynu hen eglwys segur ar gyfer storio'r eitemau a oedd yn cael eu rhoi. Mae'r adeilad yn cael ei adfer, sy'n helpu'r gymdogaeth, ac mae'r gymuned wedi ymateb drwy roi eitemau o'r cartref nad oes eu hangen arnyn nhw.

Bellach mae dros 50 asiantaeth yn defnyddio'r gwasanaeth hwn, gan gynnwys y timau sy'n ymdrin â cham-drin domestig a'r heddlu, gan eu bod yn gwybod y bydd yr holl wybodaeth a roddir yn cael ei chadw mewn modd cyfrinachol, ac y bydd eu cleientiaid yn cael eu trin â pharch ag urddas.

Mae'r elusen yn gweithredu'n gyflym. Maen nhw'n gallu dodrefnu cartref ar gyfer unigolyn neu deulu sydd heb ddodrefn o fewn oriau. Effaith wych hyn yw bod pobl yn teimlo fel pe bai ganddyn nhw gartref yn hytrach na dim ond 'tŷ'. Maen nhw hefyd wedi casglu dodrefn o dros 1,200 o dai yn y pedair blynedd diweddaf, gan gynnwys 60 casgliad lle roedd angen sensitifrwydd, ar gyfer teuluoedd a oedd wedi cael profedigaeth.