Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg enillwyr 2024

Mae Concrete Canvas® (CC) yn cynhyrchu math newydd o ddeunydd, sef geotecstilau llawn concrit sy'n caledu o’u hydradu. Yn y bôn, concrid ar rolyn sydd yma. Caiff y ‘cynfas concrid’ ei gynhyrchu ym Mhontyclun a'i allforio i 100+ o wledydd.

Dros yr wyth mlynedd diwethaf, mae’r cwmni wedi bod yn datblygu deunydd newydd sy’n ategu ac yn gwella ar eu cynnyrch presennol. Defnyddir CCX® yn bennaf ar gyfer leinin seilwaith dŵr swmp i atal erydiad, er enghraifft i adfer camlesi, dyfrffyrdd a sianeli hydrodrydanol.

Mae Concrete Canvas wedi ymrwymo i newid i weithgynhyrchu mwy cynaliadwy gyda ffocws ar leihau allyriadau CO2, gwastraff a llygredd.

Mae CCX® yn defnyddio technoleg carbon is ac mae'n fwy cost-effeithiol, yn lleihau effaith amgylcheddol, yn gyflym i'w gosod ac yn lleihau gollyngiadau. Mae ganddo ôl-troed logistaidd bach ac mae'n cyfrannu at gadwraeth dŵr, gan roi mynediad at ddŵr yfed glân diogel. Mae’n gallu para am 50 mlynedd.

Mae'r cynnyrch wedi'i gyflwyno'n rhyngwladol ac wedi ennill Gwobr Busnes Siambrau Prydain 2023 yn y categori Datryswr Problemau. Daeth i’r brig yng nghategori Gweithgynhyrchu gwobrau Made in the UK, Sold to the World 2023 gan Adran Busnes a Masnach Llywodraeth y DU.