Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Dewrder

{"preview_thumbnail":"/sites/default/files/styles/video_embed_wysiwyg_preview/public/video_thumbnails/U14EIXcsdfI.jpg?itok=Aj7vSBGr","video_url":"https://youtu.be/U14EIXcsdfI?","settings":{"responsive":1,"width":"854","height":"480","autoplay":0},"settings_summary":["Embedded Video (Responsive)."]}

Cafodd y criw a oedd ar ddyletswydd yng Ngorsaf Dân Pontardawe eu galw i dân yn Alltwen, Pontardawe, ar 27 Gorffennaf 2016 yn oriau mân y bore. Roedd y tŷ ar dân ac roedd dau fachgen wedi’u dal ar y llawr uchaf. Cafodd y ddwy injan dân agosaf, Pontardawe a Threforys, eu hanfon i ymateb i’r alwad.

Roedd yr amodau a oedd yn wynebu’r criw cychwynnol ar ben y grisiau’n eithafol. Roedd yr ystafell wely gefn wedi’i thraflyncu’n llwyr gan dân ac nid oedd modd gweld o gwbl ar y llawr cyntaf. A hwythau wedi ymladd y tân yn yr ystafell wely gefn a gwneud cynnydd gan gyrraedd y landin, aeth y tîm ar eu pedwar wedyn ar hyd y landin i’r ystafell wely ffrynt. Dywedodd dau aelod o’r tîm, ill dau yn ymladdwyr tân profiadol iawn, mai’r tymheredd ar ben y grisiau oedd y poethaf iddynt ei brofi erioed, a chredir ei fod dros 800 gradd ar lefel y nenfwd. 

Pan aethant i mewn i’r ystafell wely ffrynt fe ddaethant o hyd i blentyn mewn cot. Estynnodd un o’r criw dros y cot a magu’r plentyn, gan ei amddiffyn rhag y tymheredd eithafol ar y landin wrth iddo wneud ei ffordd yn ôl i lawr y grisiau. Aed â’r plentyn allan o’r tŷ ac fe’i rhoddwyd i barafeddyg; bachgen 3 blwydd oed ydoedd, a oedd wedi anadlu ychydig bach o fwg yn unig diolch i weithredoedd prydlon a dewr yr holl griw. Yn anffodus, er gwaethaf ymdrechion gorau’r criw, pan ddychwelon nhw i’r tŷ fe ddaethant o hyd i ail blentyn a gafodd ei gario allan o’r tŷ ond a oedd eisoes wedi marw.

Roedd y ffaith bod yr injan dân wedi cyrraedd yn brydlon, bod gwybodaeth wedi cael ei phrosesu’n gyflym yn y fan a’r lle a bod cynllun tactegol diogel wedi cael ei weithredu ar frys yn golygu bod bywyd plentyn 3 blwydd oed wedi cael ei achub. Heb weithredoedd a dewrder pob un ohonynt ar y cyd, nid yw’n bosibl darogan sut y byddai’r plentyn 3 blwydd oed wedi goroesi’r digwyddiad.