Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Dewrder enillwyr 2022

Mae Cwnstabl yr Heddlu Thomas Scourfield a’r Rhingyll Geraint Jenkins yn swyddogion Heddlu De Cymru. Rhoddwyd eu bywydau mewn perygl wrth geisio achub bywyd dyn 92 oed a oedd yn sownd mewn adeilad oedd ar dân ym Mhort Talbot.

Nid oedd Cwnstabl yr Heddlu Thomas Scourfield ar ddyletswydd ac roedd yn gyrru adref pan welodd fflamau ar Talbot Road, Port Talbot. Gallai glywed sgrechian o du fewn yr eiddo a thorrodd i mewn gan ddod o hyd i fenyw’n taflu dŵr ar ddyn oedd ar dân mewn iard oedd ar bwys sied a oedd yn llosgi. Gan ei fod yn credu y byddai’r ffenestri’n chwalu ar unrhyw adeg oherwydd y gwres tanbaid, arweiniodd Cwnstabl yr Heddlu Scourfield y fenyw a oedd wedi llosgi ei dwylo a’i thalcen allan o’r eiddo. Yna, dychwelodd i geisio achub y dyn.

Roedd y Rhingyll Geraint Jenkins, a oedd ar ddiwrnod olaf ei secondiad â’r uned atal tanau bwriadol, yn gyrru cerbyd y gwasanaeth tân pan sylweddolodd ar fwg du trwchus yn codi o gefn yr eiddo. Dringodd dros waliau gerddi’r cymdogion gan ddod o hyd i’r sied ar dân a chorff llonydd yr hen ddyn ar y llawr wedi’i amgylchynu gan fflamau. Yn sgil ffyrnigrwydd y tân gorchuddiodd ei hun â thywelion gwlyb i’w amddiffyn wrth iddo geisio llusgo’r dyn o’r tân. Roedd y dyn wedi llosgi ei ben, wyneb a’i gorff yn ddifrifol ac nid oedd yn anadlu. Ceisiodd y Rhingyll Jenkins gyflawni adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) tan i barafeddygon a meddygon ambiwlans awyr gyrraedd. Yn anffodus, cyhoeddwyd y dyn yn farw yn y fan a’r lle.

Mae’r ddau swyddog wedi cael eu henwebu ar gyfer Gwobrau Dewrder cenedlaethol yr Heddlu. Dywedodd cadeirydd y gangen, Steve Treharne:

“Gwnaeth y ddau swyddog hyn bopeth a allent i achub y dyn hwn. Roeddent yn anhygoel o ddewr ac anhunanol, ac arddangoswyd gwir ymrwymiad i wasanaethu’r cyhoedd ac amddiffyn y bobl yn eu cymunedau.”