Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr arbennig y Prif Weinidog enillydd 2014

Cysegrir y wobr hon i gymuned Machynlleth gan gynnwys y rhai yn ei phlith a oedd wedi bod yn chwilio am April Jones ar ôl iddi fynd ar goll ym mis Hydref 2012.

Cymuned MachynllethGwahoddodd y Prif Weinidog rieni April, Paul a Coral Jones, i Seremoni Gwobrau Dewi Sant i gyflwyno’r wobr i’r gymuned a’u helpodd drwy ddyddiau tywyllaf eu bywydau. Meddai Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru wrth roi’r wobr:

Bwriad fy Ngwobr Arbennig yw anrhydeddu pobl sy’n gwneud pethau eithriadol, a hynny mewn amgylchiadau eithriadol hefyd, o bosib. Mae’r ysbryd cymunedol a welwyd yn nhref Machynlleth yn ystod digwyddiadau arswydus mis Hydref 2012 yn dal yn ysbrydoliaeth i bob un ohonom. Dangosodd y gymuned gyfan gadernid llwyr, gan ddod at ei gilydd mewn ffordd eithriadol i ddangos cefnogaeth wych. Daeth hanesion anhygoel am aelodau’r gymuned hon i’n sylw. Daeth cymorth o bob cyfeiriad – o’r casglwyr sbwriel a fu’n chwilio amdani’n ddiflino, i’r pennaeth ysgol a helpodd y plant i ddygymod â’r hyn a ddigwyddodd, i’r cannoedd o bobl fu’n chwilio ddydd a nos, gan roi bwyd, gwneud brechdanau, a helpu ym mha bynnag ffordd y gallent. Rwy’n gwybod bod cefnogaeth eu cymdogion wedi bod yn gysur mawr i Paul a Coral, ac roedd yn teimlo’n iawn imi eu gwahodd i ymuno â mi i gyflwyno’r wobr hon i gymuned sy’n ysbrydoliaeth i bawb.

Ymatebodd y Parchedig Kathleen Rogers ar ran holl aelodau cymuned Machynlleth gan ddweud:

Mae’n anrhydedd inni gael cynrychioli cymuned Machynlleth yn y digwyddiad hwn heno. Ar ran y gymuned, diolchwn i’r Prif Weinidog am y wobr arbennig hon, sy’n cydnabod ymdrech y gymuned mewn cyfnod anodd a dirdynnol iawn. Roedd pobl yn heidio o bell ac agos i Fachynlleth i’n helpu yn ystod wythnosau cyntaf Hydref 2012. Mae ein dyled yn fawr i bob un ohonyn nhw hefyd. Mae April Jones wedi gadael ei hôl yn barhaol ar ein cymuned, er mor fyr oedd ei hoes, drwy ddangos inni wir ystyr undod, tosturi a chariad. Bydd gyda ni yn ein calonnau am byth. Mae’r cynrychiolwyr yn bwriadu trefnu diwrnod i’r teulu yn ystod yr haf, er mwyn dweud ‘diolch’ wrth gymuned Machynlleth.

Gwobr Arbennig y Prif Weinidog yw’r unig wobr nid oes modd enwebu unrhyw un ar ei chyfer. Dewisir yr enillydd gan y Prif Weinidog ei hun.