Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Diwylliant

Canwr gwerin enwog yn wreiddiol o Frynaman, Sir Gâr yw Dafydd Iwan. Daeth yn enwog am gyfansoddi a pherfformio cerddoriaeth werin yn Gymraeg. Roedd hefyd yn un o sylfaenwyr Recordiau Sain Cyf, un o brif labeli cerddoriaeth Cymru, ac mae wedi cyhoeddi nifer o albymau dros y degawdau.

Yn 1983, rhyddhaodd y canwr gwerin un o’i ganeuon enwocaf – “Yma o Hyd.” Rhyddhawyd y gân er mwyn “codi ysbryd,” ac i atgoffa pobl i siarad Cymraeg “er gwaethaf pawb a phopeth”. Ers hynny, mae’r gân wedi dod yn anthem answyddogol i Gymru a hefyd yn anthem answyddogol i dîm pêl-droed cenedlaethol Cymru.

Mae Dafydd wedi llwyddo i ddod â’r genedl gyfan ynghyd drwy ei ganeuon a’i angerdd dros Gymru. Bu ei berfformiadau o ‘Yma O Hyd’ yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn ystod ymgyrch Cymru i gyrraedd Cwpan y Byd o gymorth i symbylu’r dorf a’r tîm, gan eu gyrru i’r rowndiau terfynol yn Qatar.

Bu capten Cymru, Gareth Bale hefyd yn arwain y tîm mewn cân gyda Dafydd Iwan ar ôl y gêm olaf. Golygodd y perfformiad hwnnw a’r ffaith bod Cymru wedi llwyddo i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd bod y gân wedi dychwelyd i siart iTunes y DU am yr ail waith.

Mae nifer o bobl wedi nodi bod y perfformiad yn foment o bwysigrwydd cenedlaethol.