Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Dinasyddiaeth

Mae Dave Cooke o Wrecsam wedi ei ddewis fel teilyngwr ar gyfer y Wobr Dewi Sant am Ddinasyddiaeth am ei waith yn sefydlu’r elusen ‘Operation Christmas Child’.

25 mlynedd yn ôl, sefydlodd Dave ‘Operation Christmas Child’ i fynd ag anrhegion Nadolig i blant a oedd yn byw mewn cartrefi i blant amddifad a chymunedau tlawd mewn ymateb i weld lluniau trist ar y teledu o Rwmania yn dilyn cwymp cyfundrefn Ceausescu.

Penderfynodd gasglu tîm ynghyd i fynd ag ychydig o gymorth i gartrefi plant amddifad yn Rwmania. Gwaneth y syniad gydio yn nychymyg y cyhoedd yng Ngogledd-ddwyrain Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr ac ar y daith gyntaf aeth naw lori o gyflenwadau meddygol, bwyd, dillad ac anrhegion Nadolig i Rwmania. Credir bod y fenter wedi cyrraedd dros 113 miliwn o blant ar draws y byd.

Yn 2006, fe sefydlodd Dave Teams4u, sef elusen sy’n canolbwyntio ar weithio mewn cymunedau bregus i drawsnewid bywydau drwy addysg ac iechyd. Ar hyn o bryd, maen nhw’n gweithio yn Uganda, Sierra Leone, Belarus, Crimea a Rwmania.