Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Chwaraeon

Mae David Smith OBE o Abertawe wedi bod yn chwarae boccia ers 26 mlynedd.

Cafodd ddiagnosis cyntaf o barlys yr ymennydd yn 1 oed a chwaraeodd boccia am y tro cyntaf yn 6 oed pan oedd ei ysgol yn cystadlu mewn twrnamaint yn Stoke Mandeville ar gyfer plant ag anableddau.

Pan aeth i ysgol Treloar yn Alton, Hampshire, cafodd gyfle i chwarae sawl math o chwaraeon ar gyfer yr anabl ond roedd yn rhagori yng nghamp boccia. Yn 14 oed, ef oedd y pencampwr boccia Prydeinig ieuengaf erioed. Yn 18 oed, daeth yn Bencampwr dwbl y Byd ar ôl ennill ei wobr fawr ryngwladol gyntaf, sef medal aur unigol ac fel aelod o dîm ym Mhencampwriaethau'r Byd yn 2007 yn Vancouver. Flwyddyn yn ddiweddarach, enillodd fedal aur fel aelod o dîm yng Ngemau Paralympaidd 2008 yn Beijing.

Yn wreiddiol o Eastleigh yn Hampshire, daeth David wedyn i astudio Peirianneg Awyrofod ym Mhrifysgol Abertawe a, thros y blynyddoedd, sefydlodd glwb boccia lleol a chanolfan hyfforddi elît iddo'i hun yn y ddinas.

Gan adeiladu ar ei fuddugoliaethau ym Mhencampwriaethau’r Byd a’r Gemau Paralympaidd, dros y 14 mlynedd nesaf enillodd 6 digwyddiad unigol ac 1 fel aelod o dîm yn y Pencampwriaethau Ewropeaidd, 2 Bencampwriaeth y Byd yn unigol, medal arian unigol yn ogystal â medal efydd fel aelod o dîm yng Ngemau Paralympaidd 2012 yn Llundain, medal aur unigol yn y Gemau Paralympaidd yn Rio a medal aur unigol yn y gemau Paralympaidd yn Tokyo.

Yn ei bedwaredd Gemau Paralympaidd yn Tokyo 2020, mae David yn parhau yn rhif un y byd ac ef yw’r chwaraewr boccia mwyaf llwyddiannus erioed. Yn enwog ar Channel 4 am ei arddull ymosodol o chwarae a steiliau gwallt Paralympaidd arbennig, mae David wedi ysgogi cynnydd mawr o ran y nifer o bobl sy’n cymryd rhan mewn boccia.