Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg enillydd 2020

Yn wreiddiol o Sir Benfro, mae'r Athro Worsley yn Is-Lywydd (Arloesedd) ym Mhrifysgol Abertawe ac yn Athro Tata Steel yn arwain prosiectau ymchwil gwerth miliynau o bunnoedd mewn i ddeunyddiau ac ynni'r haul. Mae rhain yn cynnwys SPECIFIC, unig Ganolfan Arloesedd a Gwybodaeth Cymru, SUSTAIN unig Hwb gweithgynhyrchu EPSRC a’r Ganolfan Adeiladu Gweithredol, sef unig brosiect Cronfa Her y Strategaeth Ddiwydiannol sydd dan arweinyddiaeth sefydliad Cymreig. Mae hefyd wedi sefydlu prosiect SUNRISE, sy'n dod â phrifysgolion a diwydiannau yn y DU ac India at ei gilydd i ddatblygu technoleg ynni'r haul cost isel a dyluniadau adeiladau arloesol yn India ac yn o brif raglenni y Gronfa Her Ymchwil Bydol.

Mae wedi arwain y gwaith o ddatblygu Adeiladau Gweithredol, sy'n integreiddio technoleg ynni ar gyfer gwres, pŵer a chludiant. Cafodd Ystafell Ddosbarth Weithredol SPECIFIC, yr adeilad maint llawn cyntaf i ddefnyddio’r egwyddor, ei dewis fel Prosiect y Flwyddyn 2018 gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig. Hefyd yn 2018, adeiladwyd Swyddfa Weithredol  ar y cyd â phartneriaid lleol gan gynnwys Tata Steel, Wernick Buildings a BIPVco. Enillodd y Swyddfa Weithredolwobr Cyfleuster Addysg Cynaliadwy sefydliad Adeiladau Addysg Cymru.

Yn 2015 cafodd yr Athro Worsley y fraint o dderbyn Medal a Gwobr Hadfield gan y Sefydliad Deunyddiau, Mwynau a Mwyngloddio, i gydnabod ei waith eithriadol ym maes gwyddoniaeth deunyddiau a pheirianneg ac yn benodol ei lwyddiant rhagorol o fewn y diwydiannau haearn a dur.

Yn ystod ei yrfa 30 mlynedd ym Mhrifysgol Abertawe mae'r Athro Worsley wedi sicrhau dros £140 miliwn o gyllid ar gyfer ymchwil ac ar hyn o bryd ef sydd â’r cyllid mwyaf gan yr EPSRC yn y DU, gwerth £55m. Mae hyn  wrth reswm, yn esgor ar grantiau a phartneriaethau eraill o fewn Cymru.