de Novo Solutions
Gwobr Busnes enillydd 2026
Sefydlwyd de Novo Solutions yn 2021 gan Mark Sweeny yn Langstone, De Cymru ac mae eisoes wedi ennill ei blwyf ym mhlith Busnesau Bach a Chanolig gorau’r DU. Mae Mark yn arweinydd ysbrydoledig ac yn arloeswr digidol; llwyddodd i harneisio pŵer Oracle Cloud a ServiceNow i drawsnewid Cyllid, Adnoddau Dynol, Caffael a Chyflogres ar gyfer cleientiaid mawr fel Trysorlys EF, y Weinyddiaeth Gyfiawnder a Chyngor Dinas Abertawe.
O dan ei arweiniad, mae de Novo wedi cael llwyddiant masnachol sylweddol. Mae gwasanaeth unigryw de Novo wedi galluogi trawsnewid digidol ac AI a datrysiadau arloesol ar gyfer Llywodraeth Ganolog, Llywodraeth Leol ac Addysg.
Cafodd Mark ei enwi'n Entrepreneur Technoleg y Flwyddyn GBEA Cymru 2023 ac roedd de Novo yn #8 yn rhestr y Sunday Times o’r 100 Cwmnïau sy'n Tyfu Gyflymaf ac ar restr UK Tech Fast 50 Deloitte yn 2025. Heblaw tyfu’r busnes, mae hefyd am feithrin talent Cymru drwy brentisiaethau a mentora. Gweledigaeth a ffocws Mark yn y gymuned, a’i arloesedd sy’n gyrru llwyddiant economaidd a gwir newid cymdeithasol.
