Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Busnes

Sefydlodd Sarah Lawrence, o Gaerdydd, y cwmni Deaf Friendly Ltd dros 20 mlynedd yn ôl. Mae'n cynnig hyfforddiant a chyfieithu BSL i helpu i greu gweithleoedd a chymunedau mwy cynhwysol ledled Cymru. Bu Sarah yn ymgyrchu ers tro byd dros wella addysg BSL a nod ei chwmni yw helpu busnesau eraill i ddelio'n briodol â chleientiaid a gweithwyr byddar. Dechreuodd drwy ddatblygu rhaglenni hyfforddi BSL, gan gynnwys TGAU BSL, sy’n helpu i ddatblygu rhaglenni hyfforddi i athrawon gyflwyno BSL mewn ysgolion. Mae yma botensial i wella bywydau 12 miliwn o bobl ar draws y DU sydd â diagnosis o broblemau clyw. Yn ogystal â bod yn ymgynghorydd am fyddardod, Sarah oedd un o'r bobl fyddar cyntaf i gynnig cyrsiau Ymwybyddiaeth Byddar ynghyd â’r cyrsiau BSL arferol. Bellach mae’r busnes yn tyfu i ateb y galw newydd am wasanaethau cyfieithu BSL ar gyfer y teledu a chyfryngau eraill ac mae'n helpu i greu cyfleoedd gwaith llawn amser i oedolion byddar nad ydynt efallai wedi cael cyfleoedd o'r blaen.

Ei huchelgais yw gweld BSL yn dod yn iaith sydd o fewn cyrraedd pawb a helpu i frwydro yn erbyn yr unigrwydd y mae llawer o bobl fyddar yn ei deimlo.