Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Ceidwad yr Amgylchedd

Yn greiddiol i ymdrechion adfer rhywogaethau yng Nghymru mae tîm Deorfa Cynrig—Dr John Taylor, Oliver Brown, Richard Davies, a Haydn Probert o Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae'r arbenigwyr hyn yn magu ac yn adfer rhai o’r rhywogaethau gwyllt sydd dan y bygythiad mwyaf yn y DU: llygod dŵr, cimychiaid afon crafanc wen, cregyn gleision perlog dŵr croyw a’r brithyll melyn.

Mae eu gwaith yn gymysgedd o sgiliau gwyddonol, addasu a meddwl arloesol - bwydo a glanhau saith diwrnod yr wythnos, perffeithio dulliau bridio, a datblygu atebion cynaliadwy fel tyfu llysiau hydroponig ar gyfer llygod dŵr.

Mae’r tîm wedi magu dros 7,000 o gimychiaid afon yn llwyddiannus, ailgyflwyno 10,000 o lygod dŵr, treialon blaengar i olrhain eogiaid er mwyn tracio cadwraeth afonydd, ac ailgyflwyno cregyn gleision perlog ac adfer poblogaeth brin iawn o frithyllod melyn oedd ar fin diflannu am byth.

Mae’r tîm yn yn rhannu ei wybodaeth yn eang, gan feithrin y genhedlaeth nesaf o arbenigwyr trwy weithio gyda gwirfoddolwyr. Mae ymrwymiad a phenderfyniad tîm Deorfa Cynrig yn fodel o stiwardiaeth amgylcheddol, diogelu bioamrywiaeth a helpu rhywogaethau mwyaf bregus Cymru.