Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Dr Charles Willie yw sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Diverse Cymru – sefydliad cydraddoldeb Cymru gyfan sy’n ymroddedig i ddiddymu gwahaniaethu ac anghydraddoldeb. Yn eiriolwr cydraddoldeb gydol ei oes, yn 2011 roedd Dr Willie yn Brif Swyddog Gweithredol Cynghrair Pobl Anabl Caerdydd a’r Fro a hefyd yn aelod o fwrdd Awetu, sef Grŵp Iechyd Meddwl Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig ar gyfer Cymru Gyfan. O dan ei arweinyddiaeth ef, unodd y ddau sefydliad i greu Diverse Cymru.

Mae Dr Willie wedi dylunio a datblygu Cynllun Ardystio Cymhwysedd Diwylliannol Diverse Cymru o ran pobl ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol , ac mae’r cynllun wedi ennill sawl gwobr. Credir taw dyma’r cyntaf o’i fath yn Ewrop. Mae’r cynllun yn defnyddio offeryn datblygu’r gweithle i helpu sefydliadau i roi arferion da ar waith o fewn y gweithle, gan sicrhau bod gwasanaethau yn deg a chydradd ar gyfer pobl ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yng Nghymru. Ers dechrau’r cynllun yn 2018, mae wedi cael ei fabwysiadu gan fwy na 100 o sefydliadau yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector ledled Cymru a’r DU. Mae wedi ei ddilysu yn annibynnol gan Fuddsoddwr y DU mewn Cydraddoldeb ac Amrywiaeth (UKIED) ac wedi cael cymeradwyaeth gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion.