Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Gweithwyr hanfodol

Mae Dr Eilir Hughes yn feddyg teulu yn Nefyn, Gogledd Cymru. Mae wedi chwarae rhan bwysig yn ystod y pandemig.

Sefydlodd ymgyrch Awyr Iach Cymru i hyrwyddo pwysigrwydd awyru a gwisgo masgiau i leihau'r risg o ledaenu a dal COVID-19.

Gweithiodd yn agos gyda Chyngor Sir Ynys Môn i'w helpu i wella awyru mewn ysgolion a gwnaethant gyflwyno peiriannau CO² i fonitro ansawdd aer cyn bod unrhyw ganllawiau swyddogol yn cael eu cyflwyno.

Sefydlodd raglen frechu yn y gymuned hefyd. Tŷ Doctor yn Nefyn oedd un o'r meddygfeydd cyntaf i frechu cleifion â'r brechlyn Pfizer. Cyn i hynny ddigwydd, dim ond mewn canolfannau brechu mawr y defnyddiwyd y brechlyn hwn oherwydd y tymheredd storio isel iawn sydd ei angen ar gyfer y brechlyn a'r cyfnod byr o amser ar gyfer rhoi mil o ddosau i bobl.

Gweithiodd gyda chlinigwyr ac adeiladwyr lleol i lunio cynlluniau ar gyfer ysbyty maes mewn canolfan hamdden yn y gymuned rhag ofn y byddai angen yn ystod ton gyntaf y pandemig. Gweithiodd gydag arbenigwr asbestos lleol i ddod o hyd i gyflenwad annibynnol o fasgiau PPE a FFP3, a ddosbarthwyd i gartrefi gofal lleol, meddygfeydd a'r ysbyty lleol.

Gweithredodd fel arweinydd clinigol yn yr ysbyty cymunedol lleol, Ysbyty Bryn Beryl ac agorodd ward adfer COVID. Sefydlodd uned asesu COVID-19 ar wahân yn yr ysbyty hefyd i asesu cleifion ag anawsterau anadlu ar ran meddygon teulu yn ardal Dwyfor.