Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Dewrder enillwyr 2023

Mae Hari Thomas (14) a Dylan Pritchard-Evans (13) yn ddau gyfaill o Geredigion yng Ngorllewin Cymru sy’n hoff iawn o bêl-droed. Fe wnaethon nhw atal trychineb ar yr M4 ym mis Ionawr 2022.

Wrth iddynt gael eu gyrru’n ôl o sesiwn hyfforddi yn Academi Bêl-droed Abertawe, fe syrthiodd Catrin, mam Harri, yn anymwybodol wrth olwyn y car ger cyffordd 45 ar yr M4.

Ac yntau’n eistedd wrth  ochr ei fam, roedd  Hari yn ddigon dewr i afael yn olwyn y car a’i lywio am dros 1 milltir ar ysgwydd galed yr M4 gyda chymorth Dylan a ddywedodd wrtho am ddefnyddio’r goleuadau perygl a rhybuddio traffig arall bod problem.

Drwy ddangos gwaith tîm edmygadwy, llwyddodd y bechgyn i adael y draffordd ar gyffordd Gwasanaethau Gorllewin Abertawe gan ddefnyddio’r brêc llaw i ddod â’r car i stop yn araf, er mwyn peidio â throi’r car.

Yna, fe wnaeth y bechgyn dynnu sylw modurwr oedd yn mynd heibio a galwodd ef y gwasanaethau brys.

Mae’n bosibl bod dewrder y ddau fachgen wedi achub bywydau di-rif y noson honno, gan gynnwys bywyd mam Hari a’u bywydau nhw eu hunain. Roeddent wedi cadw’u pennau a pharhau’n  gyfrifol yn ystod profiad a fyddai wedi bod yn un brawychus i unrhyw un o dan y fath amgylchiadau.

Mae Hari a Dylan wedi cael cydnabyddiaeth gan yr Heddlu am eu dewrder.