Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Diwylliant

Elise Davison yw cyfarwyddwr artistig a Phrif Swyddog Gweithredol Cwmni Theatr Taking Flight (TFTC) yng Nghaerdydd. Mae TFTC, dan arweiniad grym rhyfeddol Elise, yn creu perfformiadau hynod a gweithdai ei wedi’u creu gan, gyda ac ar gyfer actorion proffesiynol byddar, anabl, niwroamrywiol a heb anabledd. Mae Elise wedi cael profiad o salwch meddwl ei hun ac mae'n niwroamrywiol; gyda'i phrofiad byw ei hun yn ogystal â blynyddoedd o waith yn y diwydiant, mae'n trefnu hyfforddiant hygyrch ar gyfer talent fyddar, anabl a niwroamrywiol newydd, er mwyn rhoi sgiliau iddynt a gwneud iddynt deimlo bod croeso iddynt ym myd y theatr.

Yn aml, mae’r gwaith theatr yn digwydd mewn tair iaith - BSL (Iaith Arwyddion Prydain), Cymraeg a Saesneg. Mae Elise yn ddysgwr Cymraeg diflino ac yn rhugl yn BSL (i safon lefel 6) a Saesneg.

Mae llawer o bobl sy'n fyddar, anabl a niwroamrywiol wedi dweud eu bod wedi penderfynu aros yng Nghymru neu symud yma ar ôl gweithio gydag Elise yn Taking Flight. Drwy weithio mewn partneriaeth agos â lleoliadau theatr eraill ledled Cymru i wella eu mynediad, mae Elise yn helpu gweithwyr proffesiynol byddar, anabl a niwroamrywiol yn cael ffynnu yn y maes.