Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer y wobr Dyngarol

Mae Emma Lewis yn Gadeirydd ac un o sylfaenwyr Roots Foundation Wales, elusen sy'n rhoi cymorth i bobl ifanc mewn gofal, pobl sydd wedi gadael gofal a'u gofalwyr.

Sefydlodd Emma yr elusen yn 2011 oherwydd ei bod wastad yn dod ar draws pobl mewn gofal a oedd mewn bylchau yn y ddarpariaeth, pan oedd hi'n gweithio fel gweithiwr datblygu cymunedol mewn ardal ddifreintiedig yn Abertawe.

Mae Emma yn dod o Sir Benfro yn wreiddiol, a chafodd hi ei magu mewn gofal ar ôl cael ei hesgeuluso, yn ogystal â dioddef cam-drin corfforol a rhywiol. Symudodd hi i Abertawe ar ôl iddi briodi â'i gŵr a chael mab. Ar ôl gweithio i amrywiaeth o sefydliadau trydydd sector, bu Emma yn gweithio fel goruchwyliwr a gweithiwr allgymorth i oedolion yn Nhŷ Cymunedol Tŷ Fforest, lle cafodd hi'r syniad ar gyfer sefydlu Roots Foundation.

Mae'r sefydliad yn mynd o nerth i nerth. Cafodd sylw ar y rhaglen DIY SOS, a oedd yn adfer un o'u hadeiladau, gan gynnwys tri fflat lled annibynnol, lle gall pobl sydd ar fin gadael gofal ddysgu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer byw'n annibynnol.

Mae Roots yn cynnig cyngor am ddim, sesiynau galw heibio wythnosol ar gyfer pob ifanc, grwpiau cymorth i ofalwyr a boreau coffi, ynghyd â phrosiectau dynodedig sy'n rhoi cymorth i bobl ifanc mewn gofal sydd wedi cael eu hecsbloetio.

Mae Emma hefyd yn aelod o Banel Ymgynghorol Dioddefwyr a Goroeswyr ac yn cynrychioli Cymru yn yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol (yr ymchwiliad lefel uchaf yn y DU i fethiannau sefydliadol), ac yn 2018 dyfarnwyd Cymrodoriaeth er Anrhydedd iddi gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.