Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Person Ifanc

Bachgen 12 oed yw Ethan Hutchings a achubodd ddyn a oedd yn boddi mewn afon yng Nghwmafan, Castell-nedd Port Talbot. Roedd Ethan, sydd wedi bod yn cael triniaeth ar gyfer canser y thyroid, yn cyfarfod â'i lysfam a'i chwaer fach am y tro cyntaf ers i'r cyfnod clo gael ei lacio haf diwethaf. Fe wnaethon nhw gyfarfod i badlo  mewn man prydferth lleol ble mae pobl yn nofio yn yr afon yn y Gorad, Cwmafan pan sylwodd Ethan fod dyn mewn trafferthion yn y dŵr. Daeth y dyn 50 oed yn anghyithiol ar ôl plymio i'r dŵr oer ac roedd yn boddi. Tra bod pobl eraill yn sefyll o gwmpas, deifiodd Ethan i’r dŵr a nofio o dan y dyn gan feddwl yn gyflym, a gan ddod ag ef i ddiogelwch y lan. Wrth aros i'r gwasanaethau brys gyrraedd, ymunodd eraill ag Ethan i roi adfywiad cardio-pwlmonaidd i'r dyn - rhywbeth yr oedd wedi'i ddysgu yn yr ysgol. Heb feddwl am ei ddiogelwch ei hun, gwnaeth Ethan ymddwyn yn ddewr a gweithredu’n gyflym gan achub bywyd y dyn y diwrnod hwnnw.