Faith in Families
Enwebiad ar gyfer gwobr Arwr Cymunedol
Mae Faith in Families, Abertawe, yn gadarnle o dosturi ac arloesedd sy'n ailddiffinio rôl elusen gymunedol. Mewn cymdogaethau sy'n wynebu tlodi a chaledi, mae eu “Cwtches Cymunedol” yn darparu mannau diogel lle mae plant yn ffynnu a theuluoedd yn cael cefnogaeth hanfodol.
Yn 2024 sefydlodd yr elusen y Cwtch Mawr, sef ‘Banc Pob Dim’ cyntaf Cymru. Yn ei blwyddyn gyntaf yn unig, cynhyrchodd y fenter bron i £28 miliwn mewn gwerth cymdeithasol. Erbyn mis Tachwedd 2024, roedd Cwtch Mawr wedi dosbarthu dros filiwn o eitemau hanfodol, gan helpu dros 30, 000 o deuluoedd a gwneud defnydd da o nwyddau dros ben.
Cynigir pob math o wasanaethau eraill, fel gofal plant, cyngor, hyfforddiant, cymorth i deuluoedd a rhieni, uwchsgilio oedolion, a meithrin dyfodol gwell. ‘Cwtch, nid cardod’ yw arwyddair Faith in Families; maen nhw’n adfer urddas, yn ennyn gobaith, ac yn adeiladu cymunedau cryfach. Mae eu heffaith eithriadol yn eu gwneud yn deilyngwyr haeddiannol am Wobr Dewi Sant, drwy ddangos beth sy'n bosibl drwy weithredu gyda thosturi.
