Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Diwylliant a chwaraeon

Mae'r Forget-me-not Chorus yn elusen wirioneddol ysbrydoledig sy'n defnyddio cerddoriaeth a chân i rymuso pobl sy'n byw gyda dementia a’r rheiny sy’n eu cefnogi. Sefydlwyd yr elusen ar y cyd yn 2010 gan Kate Woolveridge, mezzo-Soprano ddawnus, amatur lleisiol ac athrawes canu.

Cyn y pandemig, roedd Kate a'i thîm o gerddorion proffesiynol yn rhedeg deg côr ledled Cymru, gan gyrraedd dros 300 o bobl bob wythnos mewn lleoliadau cymunedol, cartrefi gofal ac ysbytai.

Yn benderfynol o ymateb i heriau Covid-19, mae'r tîm wedi parhau i gefnogi teulu bregus Forget-me-not drwy gyfuniad o ymarferion byw wythnosol ar Zoom, ffilmiau rhyngweithiol ar-lein, ceisiadau cân arbennig a sesiynau awyr agored. Mae dros 200 o gartrefi gofal bellach yn defnyddio'r ffilmiau rhithwir am ddim ac mae'r ymarferion wythnosol ar Zoom, a fynychir gan bobl ledled y DU, yn parhau i harneisio pŵer cân i uno, ysgogi, ymgysylltu ac ysbrydoli.