Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Dewrder

Roedd Gary Griffiths a Jon Stone yn gyrru ceir gwahanol pan welodd y ddau ohonynt ddamwain car, ac fe wnaethant achub gyrrwr gwrywaidd o’i gar, oedd ar dân. Fe wnaeth gweithredoedd y ddau ohonynt achub y gyrrwr, a oedd wedi ei anafu’n ddifrifol.

Am 22:37 ar 27 Mehefin 2022 mynychodd criwiau tân wrthdrawiad rhwng dau gar ar yr A4232. Pan gyrhaeddodd y cerbyd tân ac achub cyntaf leoliad y ddamwain roedd y car wedi ei amgylchynu’n llwyr gan dân.

Cyn i’r gwasanaeth tân gyrraedd roedd Gary Griffiths a Jon Stone wedi achub y gyrrwr gwrywaidd o’r car oedd yn llosgi. Gan ddefnyddio diffoddydd tân, fe wnaethant redeg at y car, a chanfod nad oedd y drysau’n agor. Wedyn fe wnaethant ddefnyddio’r diffoddydd i dorri’r ffenestri a rhyddhau drws y gyrrwr, a thynnu’r gyrrwr o’r car i le gweddol ddiogel.

Cafodd y gyrrwr a dynnwyd o’r car anafiadau difrifol. Pe na bai Gary Griffiths a Jon Stone wedi gweithredu mor sydyn a rhagweithiol, byddai gyrrwr y cerbyd wedi cael anafiadau angheuol yn y tân.