Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr arbennig y Prif Weinidog enillydd 2023

Gillian Clarke yw enillydd Gwobr Arbennig y Prif Weinidog yn seremoni Gwobrau Dewi Sant.

Dewiswyd y bardd a'r awdur gan Brif Weinidog Cymru am ei chyfraniad nodedig i gelfyddydau, llenyddiaeth a diwylliant Cymru.

Daw Gillian Clarke yn wreiddiol o Gaerdydd ond mae bellach yn byw yng Ngheredigion.

Mae ei gwaith wedi bod yn rhan o faes llafur arholiadau TGAU a Lefel A ers dros ddeng mlynedd ar hugain, ac mae hi'n adrodd ei cherddi yn rheolaidd i gynulleidfaoedd o fyfyrwyr ym Mhrydain ac Ewrop.

Mae Gillian wedi ysgrifennu dramâu radio a theatr a chyfieithu barddoniaeth a rhyddiaith o'r Gymraeg. Mae hi wedi ysgrifennu dros 100 o gerddi trwy gydol ei gyrfa.

Gillian oedd Bardd Cenedlaethol Cymru o 2008 tan 2016. Cafodd Fedal Aur y Frenhines am Farddoniaeth yn 2010 a Gwobr Wilfred Owen yn 2012.


Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

“Mae iaith mor bwysig i ni yng Nghymru. Mae bod yn wlad lle siaredir dwy iaith bob dydd yn golygu mai geiriau sy’n ein diffinio, fel unigolion ac fel gwlad. Dyna’r rheswm pam y bu gan feirdd le mor bwysig yn ein hanes.”

“Mae gwobr heddiw yn ffordd o ailddatgan hynny yn y Gymru gyfoes, trwy anrhydeddu un o feirdd mwyaf blaenllaw fy oes. Mae gwaith Gillian Clarke yn costreli harddwch, grym a chlymau ein bywyd. Mae’n anrhydedd cael cynnig y wobr hon iddi.”