Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Chwaraeon enillydd 2022

Y Morwr Hannah Mills OBE o Fro Morgannwg yw Olympiad mwyaf llwyddiannus Cymru. Mae hi wedi ennill medalau mewn tair gêm Olympaidd yn olynol – un arian a dwy aur.

Cafodd ei geni yng Nghaerdydd a dechreuodd hwylio yng Nghanolfan Hwylio Caerdydd (Canolfan Hwylio Llanisien ar y pryd) pan oedd hi'n wyth oed ar ôl rhoi cynnig ar hwylio ar wyliau teuluol yng Nghernyw. Dechreuodd hwylio i Sgwad Optimist Cenedlaethol Cymru ac enillodd Bencampwriaeth Optimist Prydain yn 2001.

Enillodd fedal arian yn Llundain 2012 a medal aur yn Rio yn 2016 gyda'i phartner sefydledig Saskia Clark. Pan wnaeth Clark ymddeol o hwylio Olympaidd yn dilyn Gemau Olympaidd Rio, roedd angen i Hannah ddod o hyd i bartner newydd ac fe wnaeth hi ymuno ag Eilidh McIntyre.

Yn eu cystadleuaeth gyntaf gyda'i gilydd, fe wnaethon nhw ennill rownd derfynol Cyfres Cwpan y Byd yn Sbaen ac yna medal arian ym Mhencampwriaethau'r Byd 470. Mae medal aur yng Ngemau Olympaidd Tokyo wedi gwneud Hannah'r hwyliwr Olympaidd mwyaf llwyddiannus.

Ar ôl teithio ledled y byd a threulio amser yn Rio cyn y Gemau Olympaidd yno yn 2016 a gweld cymaint o sbwriel plastig ar draethau, marinas a harbyrau ledled y byd, daeth yn Llysgennad Cynaliadwyedd y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol. Yn ddiweddar, lansiodd yr Adduned Fawr Plastig (‘Big Plastic Pledge’), sy'n ceisio dileu plastig untro ym myd chwaraeon.