Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Ysbryd y gymuned enillydd 2024

Mae gan Helen 34 mlynedd o brofiad yn y sector gwirfoddol. Ar ôl cyfnod yn fam sengl ddigartref, mae hi bellach yn Brif Weithredwr ysbrydoledig.

Ers goresgyn problemau iechyd mawr ar ôl cael diagnosis o diwmor a thwll yn y galon a chael pedwar trallwysiad gwaed mae Helen wedi mynd ymlaen i gymryd rhan mewn rasys Triathlon, Marathon Ultra a Heriau Dringo’r 5 Copa a’r 10 Copa.

Mae Helen wedi gweithio yn y sector elusennol mewn nifer o rolau. Fel Cyfarwyddwr Tenovus, lansiodd unedau symudol i ddod â gwasanaethau cleifion yn nes at gartrefi pobl a gwella bywydau dioddefwyr canser yng Nghymru.

Yn ei rôl bresennol fel Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Elusennol Stephens a George Helen sy’n trefnu'r ŵyl 'Spread the Word' – Gŵyl Plant fwyaf y DU. Mae 7,500 o blant yn cymryd rhan yn yr ŵyl ac mae’n rhoi enw da i Gymru ledled y DU.

Mae Helen hefyd wedi bod yn rhan o amrywiaeth o brosiectau eraill megis 'Baby Book Worm' sy'n cefnogi rhieni i roi cychwyn da i'w plant yn yr ysgol. Bu’n gyfrifol am greu 15 llyfrgell gymunedol yn ysgolion Merthyr Tudful a datblygu prosiectau addysg amgen pwrpasol i bobl ifanc a ddiarddelwyd o ysgolion - dyfarnwyd y wobr Hyfforddiant ac Addysg Gorau i'r mentrau hyn yng Ngwobrau Cymdeithas Sifil Llundain, y tro cyntaf i'r wobr ddod i Gymru.