Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Fel rhan o Gonsortiwm Her Peiriannau Anadlu y DU, daeth gweithwyr o Siemens ac Airbus at ei gilydd ym mis Mawrth 2020 yn y Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch ym Mrychdyn i drawsnewid y cyfleuster, sydd yn cael ei ddefnyddio fel canolfan ymchwil a datblygu fel arfer, yn llinell gydosod i gynhyrchu peiriannau anadlu meddygol ar raddfa ddigynsail.

Gweithiodd y staff oriau hir i adeiladu dwy linell gydosod ar y safle a dewiswyd tîm o 550 o weithredwyr medrus Airbus i adeiladu peiriannau anadlu 24/7 i achub bywydau. Yn dilyn cymeradwyaeth gan Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd y DU, ar anterth y cynhyrchu, helpodd y tîm i adeiladu hyd at 1,500 o beiriannau anadlu Penlon Prima ES02 mewn wythnos yn unig, sy'n cyfateb i chwe mis o gynhyrchu peiriannau anadlu ar gyfradd arferol.

Diolch i'r cydweithio hwn, cyflwynwyd cyfanswm o 13,437 o beiriannau anadlu i'r GIG, gan sicrhau bod y GIG yn gallu cael gafael ar yr offer sydd ei angen i achub bywydau.