Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Dinasyddiaeth

Hilary Johnston yw sylfaenydd a chadeirydd ymddiriedolwyr elusen ddielw Cwtch Baby Bank, a leolir yn Ffynnon Taf.

Sefydlwyd Cwtch Baby Bank yn 2016, a dyma yw'r cyntaf o'i fath yng Nghymru. Mae'n cefnogi teuluoedd sy'n agored i niwed yn y gymuned, ac yn gwneud hynny drwy ailddosbarthu hen eitemau babanod, offer hanfodol, dillad, teganau a thaclau ymolch ar gyfer babanod newydd-anedig hyd at 24 mis oed. Nid oes unrhyw gyswllt uniongyrchol gan Cwtch Baby Bank â'r teuluoedd y mae’n eu helpu; yn lle hyn, mae’n darparu'r eitemau hanfodol hyn drwy atgyfeiriadau gan weithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ac asiantaethau cymorth perthnasol eraill, gan sicrhau bod y rhoddion a dderbynnir yn mynd yn syth i'r bobl y mae arnynt eu hangen fwyaf.

Dechreuodd taith Hilary pan ddaeth yn rhiant maethu ar gyfer babanod hyd at ddwy flwydd oed yn ardal Merthyr Tudful. Wedi 20 mlynedd o weithio fel gofalwr maeth, ymddeolodd Hilary o'i swydd, ac fe'i hysbrydolwyd i sefydlu'r banc i fabanod ar ôl sylweddoli nad oedd elusen yn bodoli a fyddai'n derbyn ei hen offer i fabanod. Mae Hilary yn trefnu digwyddiadau codi arian yn rheolaidd, megis dawns flynyddol, ac mae'n estyn allan i siopau a busnesau lleol i helpu i godi arian ar gyfer yr elusen. Ers iddo gael ei lansio, mae Cwtch Baby Bank wedi helpu dros 750 o deuluoedd. Mae Hilary yn ymroddedig i helpu teuluoedd sy'n agored i niwed gyda phlant yng Nghymru.