Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Diwylliant

Mae Ifor ap Glyn yn fardd a darlledwr arobryn. Cafodd ei eni yn Llundain i rieni Cymraeg ond mae bellach yn byw yng Nghaernarfon.

Cafodd ei enwi yn bedwerydd Bardd Cenedlaethol Cymru yn 2016.  Rheolir cynllun Bardd Cenedlaethol Cymru gan Llenyddiaeth Cymru. Disgwylir iddo ymateb i ddigwyddiadau o bwys cenedlaethol ac ymddangos mewn digwyddiadau a gwyliau yng Nghymru a thu hwnt i godi proffil awduron ac ysgrifennu o Gymru.

Yn ystod ei amser fel Bardd Cenedlaethol Cymru, mae e wedi llunio cerddi i nodi 20fed penblwydd sefydlu’r Cynulliad, 100 mlwyddiant diwedd y Rhyfel Mawr ac i groesawu ffoaduriaid o Syria i Gymru, ymhlith pethau eraill.  Rhwng 2008-09, fe oedd Bardd Plant Cymru hefyd.

Mae e wedi enill Coron yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith; yn 1999 gyda chyfres o gerddi am oedolion sy’n dysgu Cymraeg, ac yn 2013 gyda cherddi’n ymateb i’r nifer o siaradwyr Cymraeg a nodwyd yng Nghyfrifiad 2011.

Yn 1996 ef oedd un o sefydlwyr cwmni teledu annibynnol Cwmni Da, ac mae wedi gweithio fel cyfarwyddwr, cynhyrhcydd a chyflwynydd. Mae e wedi ennill sawl gwobr BAFTA Cymru am ei waith, gan gynnwys y gyfres Lleisiau’r Rhyfel Mawr a chyfres Popeth yn Gymraeg.  Mae Cwmni Da erbyn hyn yn cyflogi dros hanner cant o bobl; mae’r cwmni yn eiddo i’r gweithlu ac yn cael ei reoli ganddynt.