Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Person Ifanc

Mae Jacob yn fachgen 9 oed o'r Rhyl sydd wedi dangos dewrder a chryfder mawr wrth ymdopi â’r ffaith i’w dad fynd yn sâl a marw o ganser.

Yn fuan ar ôl colli ei dad, cododd Jacob £3,500 i Hosbis St Kentigern a ofalodd am ei dad yn ei ddyddiau olaf. Gwerthodd Jacob ei deganau mewn gwerthiant cist car i godi arian i gefnogi'r hosbis a rhannodd ei stori yn agored gan sôn am sut roedd yn teimlo.

Mae Jacob hefyd wedi codi £200 drwy redeg am 'Ras am Oes' a'i nod yw codi arian ar gyfer elusen ganser wahanol bob blwyddyn.

Yn fwy diweddar mae wedi bod yn mynychu diwrnodau profedigaeth ac yn sôn am ei brofiad o golli rhiant i blant ifanc eraill sydd wedi mynd drwy'r un profiad.

Bedwar diwrnod ar ôl marwolaeth ei dad aeth Jacob yn ôl i'r ysgol gan ei fod yn poeni y byddai ei ffrindiau yn poeni amdano.

Mae Jacob yn fachgen ifanc ysbrydoledig sydd wedi delio â cholli ei dad gyda'r fath gryfder a gwytnwch wrth feddwl am y rhai o'i gwmpas a sut maen nhw'n teimlo ar adeg mor anodd.