Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Dewrder

Mae James Reilly, cyn-gomando gyda’r Peirianwyr Brenhinol, wedi parhau i ddangos dewrder a gwasanaethu eraill ymhell ar ôl ei yrfa filwrol.

Bellach wedi ymgartrefu yn Wrecsam gyda'i wraig Sarah, ei ferch Mara a'i fab newydd-anedig Dylan, mae James yn gweithio fel plymwr a pheiriannydd gwresogi yn ei gymuned leol.

Un diwrnod, ym Mharc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas, daeth James yn arwr go iawn. Pan welodd menyw mewn trafferthion difrifol mewn dyfroedd rhewllyd, wnaeth James Ymateb yn syth. Heb oedi dim, aeth James i mewn i'r dŵr rhewllyd, gan gymorthwyo a thawelu'r ddynes wrth iddo ef ac eraill weithio gyda'i gilydd am dros awr nes i'r gwasanaethau brys gyrraedd.

Drwy weithredu yn benderfynol a dyfalbarhau gyda chymorth pobl eraill oedd gerllaw a'r swyddog tân Chris Argent, fel lwyddodd James i achub bywyd y ddynes y diwrnod hwnnw. Mae ei ymateb greddfol i helpu rhywun mewn perygl yn gwneud James yn gwbl deilwng i fod ar y rhestr fer am Wobr Dewi Sant.