Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Diwylliant enillydd 2017

Cafodd Jen Wilson ei geni a’i magu ym Mryn Hyfryd yn Abertawe. Mae’n bianydd jazz hunanddysgedig ac yn gerddor, cyfansoddwraig, awdur ac archifydd jazz medrus. Am 50 mlynedd neu fwy bu gan Jen rôl ganolog o ran hyrwyddo cerddoriaeth jazz yng Nghymru ac o ran dogfennu ei hanes a’i heffaith gymdeithasol – ac yn arbennig rôl menywod mewn jazz.

Ar ddechrau’r 1980au ymunodd Jen â Grŵp Hanes Menywod Abertawe wrth iddi ddod yn fwyfwy ymwybodol nad oedd menywod cyffredin yn amlwg mewn hanes prif ffrwd ac nad oedd menywod jazz yn cael sylw mewn hanesion diwylliannol. Fe gyfrannodd ymchwil leol Jen wybodaeth am gyfnewid diwylliannol Affricanaidd-Americanaidd o’r 1850au, e.e. Café Society a bandiau menywod, a gafodd sylw yn yr arddangosfa ‘How Jazz Came to Wales’ yn 2016 yn Amgueddfa Abertawe.

Sefydlodd Jen yr elusen gofrestredig Women in Jazz ym 1986, gan barhau i ychwanegu ei chasgliad o hanesion llafar, cerddoriaeth ddalen, llyfrau, arteffactau a chofnodion jazz. Daeth y Fonesig Cleo Laine yn Noddwr yn 2003.

Yn nodedig mae ei gwaith wedi bod yn ysbrydoliaeth ar gyfer rhaglenni radio megis y ddrama mewn tair rhan gan Alan Plater ar gyfer BBC Radio 4 (1991) ‘Devil’s Music’; a rhaglen Radio 4 ‘The Lost Women of British Jazz’, a enwebwyd am y wobr Prix Europa yn 2015 ac a ddaeth yn bumed. Enillodd wobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn 2014, a’r Point of Light Award gan y Prif Weinidog David Cameron yn 2015. Cafodd hefyd ei phenodi’n Athro Ymarfer Anrhydeddus gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn 2016.