Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Dewrder

Roedd Jo Morris yn syrffio ar draeth Aberafan ger Port Talbot, un prynhawn yn Awst 2019, pan welodd dri o bobl ifanc wedi eu dal gan gerrynt terfol ar bwys y pier. Roedden nhw wedi cael eu llusgo i'r môr o ran o'r traeth y mae nofwyr rheolaidd yn gwybod am eu cerhyntau terfol peryglus. Roedd tonnau'n torri dros y pier, ac roedd un person yn ceisio dringo'r pier er mwyn cyrraedd man diogel.

Er bod amodau'r môr a'r tywydd yn ofnadwy, gwnaeth y syrffiwr 17 mlwydd oed badlo i'r ddau o bobl a oedd yn dal i fod yn y dŵr, gan gynnig tennyn ei fwrdd syrffio i un ohonyn nhw a dweud wrth y llall am ddringo ar y bwrdd.

Ar ôl padlo yn erbyn y cerrynt am 20 munud, daeth ef â'r ddau i'r traeth, ac roedd achubwyr bywydau'r traeth yn gallu cadarnhau nad oedd y ddau wedi eu hanafu. Pe na bai Jo wedi gweithredu yn y ffordd ddewr hon, gallai'r canlyniad fod wedi bod yn wahanol iawn.

Tad Jo, Clive, yw rheolwr gweithgareddau badau achub yr ardal, ac roedd yntau newydd lansio'r bad achub yn bellach i lawr yr arfordir, o ganlyniad i wyntoedd cryf a thonnau mawr. Mae'n sicr pe na bai Jo wedi gweithredu mor gyflym byddai dau o bobl wedi marw'r diwrnod hwnnw.

Mae Jo wedi bod yn syrffio ers deg mlynedd. Mae wedi cael llawer o brofiad mewn amodau môr gwael ac mae'n nofiwr cryf. Mae hefyd wedi hyfforddi fel achubwr bywydau mewn pwll nofio. Wrth siarad ar ôl y digwyddiad, dywedodd ei fod wedi bod yn y lle iawn ar yr adeg iawn, a'i fod yn falch bod pawb yn ddiogel.