Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Dewrder enillwyr 2020

Dangosodd Joel Snarr a Daniel Nicholson ddewrder anhygoel mewn amgylchiadau eithriadol ym mis Mai 2019.

Roedden nhw'n gyrru ar yr A40 ar bwys y Fenni ar 12 Mai. Yn sydyn, gwnaeth awyren fach, a oedd newydd gychwyn o'r maes awyr sy'n gyfochrog â'r ffordd, fwrw'r llinellau pŵer uwchlaw a dod i lawr ar y ffordd o'u blaenau nhw.

Gwnaeth y ddau ddyn – nad oedden nhw'n adnabod ei gilydd ar y pryd ac a oedd yn gyrru ceir gwahanol – neidio o'u ceir a rhedeg tuag at yr awyren, a oedd eisoes ar dân. Roedd tri o bobl yn yr awyren, y peilot, a'i nith a nai a oedd yn eu harddegau. Roedden nhw wedi eu trapio ac nad oedden nhw'n gallu agor drysau'r awyren.

Heb feddwl am eu diogelwch eu hunain, aeth Joel a Daniel ati yn gyflym i gael y bobl o'r awyren. Gwelodd Daniel grac yn y ffenestr gefn. Llwyddodd i'w thorri'n ddiogon i achub y ddau o bobl ifanc. Torrodd Joel y ffenestr flaen a llusgo'r peilot i fan diogel.

O fewn eiliadau roedd yr holl awyren ar dân – ond roedd y tri a oedd yn yr awyren wedi cael eu hachub yn ddianaf. Cafodd Joel a Daniel eu canmol am eu dewrder gan y gwasanaethau brys ar ôl iddyn nhw gyrraedd. Ac maen nhw bellach wedi derbyn Gwobr Pride of Britain am Ddewrder Eithriadol, a Gwobr Amplifon ar gyfer Prydeinwyr Dewr yn y categori 'Yng Ngwasanaeth eu Gwlad'.

Roedd Joel yn arfer bod yn arbenigwr difa bomiau, ac mae wedi dioddef o anhwylder straen wedi trawma (PTSD) – er hynny, roedd e'n fodlon rhoi ei fywyd mewn perygl i chware ei ran yn yr achub. Gwnaeth Daniel weithredu'n reddfol, gan redeg tuag at yr awyren, er ei bod ar dan, heb feddwl am ei ddiogelwch personol.