Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Dewrder enillwyr 2021

Ar 5 Mai 2020, roedd John Rees, Lisa Way ac Ayette Bounouri yn siopa yn y CO-OP lleol ym Mhenygraig yn y Rhondda, pan aeth Zara Radcliffe i’r siop â chyllell, gyda’r bwriad o beri newid i bobl. Roedd y fenyw ifanc yn dioddef o sgitsoffrenia.

Roedd John yn bensiynwr 88 oed ac yn un o hoelion wyth y gymuned. Ceisiodd stopio Zara rhag ymosod ar siopwyr. Wrth wneud hyn, cafodd ei anafu’n angheuol. Aeth Lisa ac Ayette i helpu John a rhwystro ymosodiadau ychwanegol rhag digwydd. Cafodd Lisa ei thrywanu’n ddifrifol, ond nid oedd ei hanafiadau’n angheuol. Ers hynny, cafodd y fenyw ifanc orchymyn i’w chadw yn yr ysbyty am gyfnod amhenodol.

Dywedodd Ditectif Brif Arolygydd Mark O’Shea, o Heddlu De Cymru, heb yr hyn a wnaeth John, Lisa ac Ayette y diwrnod hwnnw gallai mwy o bobl fod wedi cael eu hanafu’n ddifrifol a’u lladd. Gwnaeth hefyd ddisgrifio’r hyn a wnaethant ymhlith y pethau dewraf a welodd yn ystod ei ddegawdau’n plismona.