Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Busnes enillydd 2022

Ar ôl goresgyn bod yn ddifrifol gaeth i gamblo a gafodd effaith andwyol ar ei fywyd, aeth Jordan Lea o Lysfaen, Gogledd Cymru ati i helpu eraill sydd wedi'u heffeithio gan gamblo.

Sefydlodd Dealmeout ar ddiwedd 2019 i gynnig addysg, dulliau atal a chymorth i'r rhai sydd wedi profi niwed yn sgil gamblo. Ond ar ôl colli ei gartref a'i swydd wrth i dafarndai gau ym mis Mawrth 2020, a gweld pobl yn galw am gymorth yn ystod y pandemig, roedd Jordan yn gwybod bod yr amser yn iawn i roi pob ymdrech i fusnes DMO. Mae'r busnes wedi tyfu i gyflogi saith o bobl gan ehangu i weddill y DU eleni a chreu 4 swydd newydd.

Mae'r cwmni'n darparu gweithdai addysg ar gyfer ysgolion, clybiau chwaraeon, y gwasanaeth cyfiawnder troseddol, y GIG ac iechyd y cyhoedd, grwpiau cymunedol a ffydd a busnesau. Mae hefyd yn darparu rhaglen sydd wedi'i chynllunio i gefnogi menywod, dan arweiniad menywod sydd â phrofiad o niwed yn sgil gamblo sy'n canolbwyntio ar fenywod sydd wedi mynd trwy’r profiad, a'r rhai sydd wedi cael profiad o niwed yn sgil gamblo rhywun arall (pobl eraill yr effeithir arnynt).

Ym mis Ebrill 21, daeth Dealmeout yn ddarparwr rhaglen addysg genedlaethol i Gymru wedi’i ariannu gan gronfa setliad rheoleiddio'r Comisiwn Gamblo gyda phwyslais allweddol ar ddarparu yn y Gymraeg a’r Saesneg. Yn ogystal, mae wedi dechrau ei wasanaeth cymorth, DMOConnect, gwasanaeth cymorth cyfannol sy'n defnyddio tirweddau hardd Eryri.