Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Rhyngwladol enillydd 2016

Mae Julie Gardner, sy’n hanu o Gastell-nedd ond sydd bellach yn byw yn Los Angeles, wedi cael ei dewis fel Teilyngwr yn y categori Rhyngwladol yng Ngwobrau Dewi Sant am ei gwaith i godi proffil cynhyrchu dramâu teledu yng Nghymru ledled y byd.

Fe’i penodwyd hi’n Bennaeth Drama BBC Cymru yn 2003 ac un o’i haseiniadau cyntaf oedd arwain gwaith adfywio cyfres Dr Who yn 2005. Chwaraeodd ran allweddol yn y gwaith o sicrhau bod y rhaglenni’n cael eu gwneud yng Nghymru yn hytrach nag yn stiwdios y BBC yn Lloegr. Adfywiodd hyn y diwydiant cynhyrchu yng Nghymru. Adeiladodd Julie ar y llwyddiant hwn drwy gomisiynu’r cyfresi Torchwood a Sarah Jane Adventures fel cyfresi deilliedig. Cafodd y rhain hefyd eu ffilmio a’u cynhyrchu yng Nghymru.

Yn 2009 ymunodd Julie â BBC Worldwide America fel Uwch Is-Lywydd sy'n gyfrifol am brosiectau sgriptio. Mae hi wedi defnyddio’r swydd hon i hyrwyddo Cymru i'r diwydiant teledu i’r diwydiant teledu yn yr UD. Mae wedi bod yn gyfrifol am ddenu mewnfuddsoddiad gwerthfawr i Gymru, sydd wedi arwain at greu stiwdio fodern newydd yn Abertawe.

Ei menter ddiweddaraf yw Bad Wolf, sef cwmni trawsiwerydd newydd mewn partneriaeth â Jane Tranter, sydd wedi’i leoli yn ne Cymru a Los Angeles. Mae'r cwmni yn bwriadu cynhyrchu cyfresi teledu a ffilmiau â chyllidebau sylweddol ar gyfer y farchnad deledu fyd-eang.