Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Person Ifanc

Seren chwaraeon anabl 16 oed yw Kai Hamilton-Frisby, sy’n dod o Aberystwyth yng Ngheredigion.

Mae parlys yr ymennydd ar Kai a chafodd lawdriniaeth pan oedd yn 7 oed, a oedd i fod i wella ei allu i symud, ond ni fu’r driniaeth yn llwyddiannus. Dywedwyd wrtho na fyddai byth yn gallu cymryd rhan mewn chwaraeon. Flwyddyn yn ddiweddarach, cafodd ei gyflwyno i bêl fasged cadair olwyn, ac yn fuan roedd yn serennu yn y gamp. Wyth mlynedd yn ddiweddarach, mae Kai wedi cynrychioli Cymru yn nhîm pêl fasged cadair olwyn o dan 14 oed y Bencampwriaeth Iau, a chafodd ei ddewis hefyd i fod yn rhan o Dîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad 2022. Fe’i dewiswyd hefyd i gario’r baton yn Nhaith Gyfnewid Baton y Frenhines. Mae Kai hefyd wedi bod yn rhan o Raglen Perfformiad Chwaraeon Anabledd Cymru. Mae hefyd wedi cynrychioli Cymru ddwywaith o dan 14 oed, yn 2018 ac yn 2019, a ddwywaith yng ngemau ysgolion 2021 a 2022, ac yna fe gymhwysodd ar gyfer tîm pêl fasged hŷn Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad pan oedd ond yn 15 oed.

Mae Kai yn awyddus i gyfrannu rhywbeth yn ôl i’r gymuned ac i ysbrydoli pobl ifanc eraill. Mae’n llysgennad ar gyfer ei glwb chwaraeon ac yn gwirfoddoli fel hyfforddwr mewn 3 chlwb chwaraeon gwahanol. Ym mis Hydref 2022, cymerodd ran yn her ricsio Plant Mewn Angen y BBC, gan ei reidio am 12 milltir o amgylch ei dref enedigol, Aberystwyth.

Mae Kai yn siarad yn agored ac yn onest am ei anabledd ac yn rhannu ei hanes o ran beth mae wedi ei oresgyn gydag eraill, gan ysbrydoli pobl ifanc i wireddu eu breuddwydion.