Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Fe wnaeth Kamal Ali o Bilgwenlli yng Nghasnewydd ddylunio mat gweddi rhyngweithiol cyntaf y byd er mwyn helpu plant ac oedolion i ddysgu sut i berfformio Salah – sef gweddi ddyddiol Mwslimiaid.

Mae Kamal yn gyn-athro, ac fe sefydlodd y cwmni wedi iddo sylwi ar ei fab yn cael trafferthion gydag symudiadau ei gorff wrth weddïo. Gan fod gan Kamal radd Meistr mewn dylunio cynnyrch, fe greodd fat gweddi rhyngweithiol sy’n sensitif i gyffyrddiad er mwyn dysgu gwahanol symudiadau’r corff ar gyfer Salah i blant.

Ar ôl datblygu prototeipiau am ddwy flynedd, lansiodd Kamal My Salah Mat yn 2018, ac ers hynny mae wedi datblygu fersiwn o’r mat i oedolion. Mae presenoldeb cryf gan y cwmni ar y cyfryngau cymdeithasol lle mae ei fideos TikTok a’i waith gyda dylanwadwyr yn golygu eu bod yn cael eu gwylio filiynau o weithiau, gan ddatblygu brand byd-eang.

Yn y pedair blynedd ers dechrau’r cwmni, mae wedi gwerthu ei gynnyrch i fwy na 40 o wledydd, ac i fwy na 180 o gwmnïau a manwerthwyr ledled y byd - gan gynnwys Virgin Megastores yn yr Emiradau Arabaidd Unedig a Dabdoob, un o siopau teganau plant mwyaf Kuwait. Mae is-gwmni yn yr Almaen hefyd. Mae’r cwmni bellach yn gweithio gydag Omar and Hana – un o stiwdios animeiddio mwyaf Malaysia – i gydweithio ar ddylunio cynnyrch i blant.