Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Person Ifanc enillydd 2024

Mae Lia, sy'n 17 oed o Bwllheli, wedi cael magwraeth heriol a chythryblus, yn byw mewn aelwyd lle bu trais domestig.

Yn dilyn digwyddiad trais domestig gartref, cafodd tad Lia ei arestio a'i gael yn euog o reoli drwy orfodaeth.

Ymatebodd Lia i'r digwyddiad trawmatig hwn trwy gefnogi ei mam a'i mam-gu a gofalu am ei brawd iau sydd ag anghenion dysgu ychwanegol dwys.

Cymerodd Lia y cyfrifoldebau ychwanegol hyn i gefnogi ei theulu tra hefyd yn cwblhau ei blwyddyn olaf yn yr ysgol a delio â'r stigma o ganlyniad i'r digwyddiad trawmatig y bu iddi hi a'i theulu fyw drwyddo.

Mae Lia wedi dangos dewrder wrth allu rhannu ei stori hi a'i theulu ag eraill ac mae wedi cymryd rhan mewn rhaglenni teledu dogfen i helpu'r rhai a allai fod wedi cael eu heffeithio gan drais domestig hefyd. Doedd siarad yn gyhoeddus fel hyn ddim yn hawdd iddi ond roedd hi'n teimlo, os oedd hi'n gallu helpu un person arall oedd yn yr un sefyllfa â hi wrth dyfu fyny, yna roedd yn werth chweil.

Yn gyn-ddisgybl o Ysgol Glan y Môr, Pwllheli, mae Lia wedi mynd ymlaen i astudio Sgiliau Bywyd yn y coleg ac wedi tyfu i fod yn berson ifanc hyderus.