Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Chwaraeon

Chwaraewr snwcer 16 oed o Dredegar yw Liam Davies.

Dechreuodd chwarae snwcer pan oedd yn chwech a hanner, a’i uchelgais yw bod yn chwaraewr snwcer proffesiynol ar y brif daith, yn ogystal â bod yn Bencampwr y Byd ac yn Rhif Un y Byd, ryw ddiwrnod.

Pan oedd yn 10 oed, cynrychiolodd Gymru yn nigwyddiad yr Her Geltaidd yn Iwerddon, a thwrnamaint ISBF yng Ngwlad Belg.

Ar hyn o bryd mae wedi ei rancio fel rhif 1 ymysg Dynion Cymru ac mae’n dal Record Guinness y Byd am fod y chwaraewr ieuengaf erioed i gystadlu mewn twrnamaint proffesiynol, pan oedd yn 12 oed.

Liam oedd y person ieuengaf i ennill gêm ym Mhencampwriaeth Snwcer y Byd yn 2022. Roedd yn 15 mlwydd a 277 diwrnod oed pan enillodd ei gêm yn y rownd ragbrofol gyntaf. Yn ddiweddarach yn 2022, fe enillodd dri digwyddiad ieuenctid byd ar ôl ei gilydd – gan guro Bulcsu Revesz o Hwngari yn y rownd derfynol o dan 16 oed, ac ennill y rownd o dan 18 oed drwy guro Antoni Kowalski o Wlad Pwyl, a churo Kowalski eto er mwyn ennill y teitl o dan 21 oed.

Mae bellach yn chwarae snwcer yn llawn amser, ac mae’n bartner ymarfer i Mark Williams, sydd wedi bod yn Bencampwr y Byd dair gwaith.