Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Gweithwyr hanfodol

Mae Branwen, Sarah a Llinos wedi bod yn allweddol yn y cydweithio arloesol rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Chyngor Ynys Môn. Sarah Hirst Williams yw Rheolwr Dialysis Cartref BIPBC; mae Branwen Ainscough yn therapydd galwedigaethol ac mae Llinos Williams yn Rheolwr Gwasanaeth Tai Cymunedol i Gyngor Sir Ynys Môn. Mae eu gwaith ar y cyd ar draws iechyd a gofal cymdeithasol wedi bod o fudd enfawr i gleifion dialysis arennau sy'n byw ar Ynys Môn. Maent wedi gweithio gyda'i gilydd i gynhyrchu 'llwybr at Ddialysis Cartref' ar gyfer cleifion sy'n byw mewn tai cymdeithasol. Drwy’r cynllun arloesol a rhagweithiol hwn caiff cleifion sy'n byw gyda methiant yr arennau driniaeth dialysis yn eu cartrefi; rhywbeth a fyddai wedi bod yn amhosibl o’r blaen. Mae cleifion sydd angen dialysis ar y ward yn gorfod mynychu Ysbyty Gwynedd hyd at x 4 gwaith yr wythnos am sesiynau o hyd at x 4 awr.

Mae dialysis cartref yn cynnig gwell ansawdd bywyd i gleifion, gan ganiatáu iddynt aros gartref a pharhau â'r gwaith a'u bywydau bob dydd. A cyn ogystal â’r manteision i’r cleifion, mae’n gwneud arbedion sylweddol i gostau triniaeth. Y model hwn o ofal iechyd darbodus yw'r cyntaf o'i fath yng Nghymru ac mae'n enghraifft dda o chwalu rhwystrau anghydraddoldeb gofal iechyd a chaniatáu i bobl aros gartref tra'n byw gyda chyflwr iechyd cronig.