Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Person Ifanc

Mae Lowri wedi goroesi ar ôl camfanteisio’n rhywiol arni pan oedd yn blentyn, Mae hi wedi bod yn anhygoel o ddewr yn siarad yn gyhoeddus am yr hyn ddigwyddodd iddi.

Rhoddodd Lowri dystiolaeth yn erbyn yr un wnaeth ei cham-drin, a chafodd y troseddwr ei ddedfrydu a’i garcharu o ganlyniad. Er bod y troseddau yn ei herbyn a’r broses cyfiawnder troseddol wedi cael effaith sylweddol ar iechyd a lles Lowri, mae hi wedi gwirfoddoli i helpu asiantaethau i wella ei hymateb i Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant.

Mae Lowri wedi rhoi cryn dipyn o’i hamser i ymwneud ag ymarferwyr, uwch arweinwyr a Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu i roi adborth ar y ffordd y gallai’r heddlu a chyrff eraill wella’r gwasanaeth a roddir i blant. Defnyddiwyd yr adborth o’r trafodaethau hyn i ddatblygu’r ymateb rhanbarthol i Gamfanteisio’n Rhywiol ar Blant yng Ngwent. Newidiwyd y polisi a’r drefn i adlewyrchu  ei llais hi.

Crëwyd pecyn hyfforddi newydd i’r holl heddweision rheng flaen a’u partneriaid, gan greu diwylliant plismona sy’n rhoi’r plentyn yn gyntaf. Defnyddiwyd astudiaethau achos ac adborth i hyfforddi’r staff ac fe ymddangosodd Lowri mewn ffilm a ddefnyddir yn yr hyfforddiant. Cafodd yr adborth ei ddefnyddio ar lefel genedlaethol hefyd, wrth friffio Llywodraeth Cymru a dylanwadu ar y polisi a’r ymarferion ar draws Cymru.

Ar hyn o bryd, mae Lowri wrthi’n gwneud cwrs gofal cymdeithasol. Mae hi wedi ymrwymo i helpu i ddiogelu plant sy’n agored i niwed. Mae Lowri wedi gallu defnyddio ei phrofiad trawmatig , ac mae hi’n gwbl ymroddedig a phenderfynol o helpu plant eraill agored i niwed. Yn berson ifanc, mae hi’n dylanwadu ac yn gyrru newid er gwell.