Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Diwylliant

Mae Mared Elliw Huws yn gweithio fel Cydlynydd Datblygu'r Celfyddydau yn Pontio, Bangor. Mae hyn wedi ei galluogi i gefnogi nifer sylweddol o grwpiau cymunedol yn yr ardal. Mae'n gweithio ar draws pob grŵp oedran, gan gefnogi iechyd a lles, a gyda chymunedau amrywiol fel grwpiau anabl a grwpiau LHDTC+. Mae cannoedd o bobl Ifanc wedi elwa o brosiectau celfyddydol dan faner BLAS yn Pontio. Dechreuodd Caffi Babis, prosiect i rieni a babanod brofi'r celfyddydau a datblygu eu sgiliau Cymraeg drwy fanteisio ar y berthynas arbennig rhwng rhiant a baban i annog datblygiad emosiynol a gwybyddol.

Mae Mared wedi meithrin tîm o artistiaid llawrydd sy'n gweithio'n rheolaidd ar BLAS a phrosiectau cymunedol a diwylliannol penodol. Mae hi'n gwrando ar y cymunedau lleol, gan gynnwys y gymuned artistig, ac yn deall eu hanghenion. Dan gyfarwyddyd a gwybodaeth helaeth Mared, daeth Pontio yn un o brif gyflogwyr artistiaid y Gogledd. Mae Mared wedi datblygu rhaglen Tiwtor dan hyfforddiant, sy'n hyfforddi ymarferwyr lleol i weithio yn y maes i sicrhau'r safon uchaf o ran darparu celfyddydau cymunedol a chefnogi pobl i fyw a ffynnu yn eu hardal leol. Mae gan y rhaglen bartneriaeth gref gydag adran Gymraeg Prifysgol Bangor a Chymdeithas Gogledd Cymru ac Affrica.