Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg enillydd 2017

Mae’r Athro Meena Upadhyaya OBE wedi bod yn gweithio ym maes geneteg folecwlaidd feddygol ers dyddiau cynnar y ddisgyblaeth. Cafodd ei chydnabod fel yr Athro Indiaidd-Prydeinig benywaidd cyntaf ym maes Geneteg Feddygol yn y DU.

Fe gwblhaodd Meena gymrodoriaeth yng Ngholeg Brenhinol y Patholegwyr yn 2000, gan ddod yn un o’r bobl gyntaf i wneud hynny ym maes geneteg feddygol. Roedd ei gyrfa ymchwil yn canolbwyntio ar lawer o anhwylderau genetig, yn enwedig niwroffibromatosis math I a nychdod cyhyrol yr wyneb, yr ysgwyddau a rhannau uchaf y breichiau. Roedd yn rhan o adnabod y cellwyriadau sy’n gyfrifol am y ddau glefyd yma ac fe ddatblygodd brofion i roi cymorth i ddagnosio’r rhain a thuag 20 o glefydau genetig eraill. Ar hyd ei gyrfa fe ysgrifennodd fwy na 200 o erthyglau gwyddonol a thri gwerslyfr a chafodd wobrau gan y Gymdeithas Nychdod Cyhyrol (2009), Gwobrau Ysbrydoli Cymru (2010), a Grŵp Niwroffibromatosis Ewrop (2013). Mae wedi cynrychioli Caerdydd mewn llawer o gyfarfodydd rhyngwladol. Roedd yn athro yn Sefydliad Geneteg Canser Prifysgol Caerdydd ac roedd yn gyfarwyddwr Labordy Ymchwil a Datblygu Gwasanaeth Geneteg Feddygol Cymru Gyfan tan ei hymddeoliad yn 2014, gan wasanaethu wedyn fel athro hyglod anrhydeddus ym Mhrifysgol Caerdydd. Ar hyn o bryd mae’n cadeirio pwyllgor gwerthuso ar gyfer asesiad allanol o Ganolfan Geneteg Feddygol fawr yn Ffrainc.

Mae Meena hefyd yn eiriolwr brwd dros fenywod o leiafrifoedd ethnig; fe sefydlodd Wobrau Cyflawniad Menywod Asiaidd Cymru a adwaenir bellach fel Cymdeithas Cyflawniad Menywod o Leiafrifoedd Ethnig yng Nghymru a Menywod o Leiafrifoedd Ethnig mewn Gofal Iechyd yng Nghymru ac mae wedi gwasanaethu fel Mentor ar gynllun Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus y Fonesig Rosemary Butler. Mae’n un o ymddiriedolwyr Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru, Race Equality First, Race Council Cymru, yn llywodraethwr yng Nghanolfan India ac yn cael ei chynrychioli ar y Nod Siarter Cydraddoldeb Hiliol (Prifysgol Caerdydd). Mae Meena wedi gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl trwy ei hymchwil feddygol neu waith cymunedol/elusennol a chafodd OBE yn 2016 am “wasanaethau i geneteg feddygol a’r gymuned Asiaidd yng Nghymru”.