Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Gweithwyr Hanfodol (allweddol) enillwyr 2022

Michelle Jones a Catherine Cooper yw Pennaeth a Dirprwy Bennaeth Ysgol Gynradd Lansdowne yng Nghaerdydd, sy’n ysgol amlddiwylliannol ac amrywiol yn Nhreganna. Mae’n ysgol brysur a heriol.

Maen nhw wedi’u henwi ar restr fer ar gyfer Gwobrau Dewi Sant am y cymorth y maent wedi’i ddangos i deuluoedd yn eu hysgol yn ystod pandemig y coronafeirws.

Yn ystod pandemig COVID-19, maen nhw wedi gweithio’n ddiflino i roi cymorth a darpariaeth gofal plant i weithwyr allweddol a phlant sy’n agored i niwed. Maen nhw wedi mynd y tu hwnt i’w dyletswydd er mwyn sicrhau bod plant a theuluoedd sy’n agored i niwed yn cael help a chymorth yn ystod cyfnod anodd iawn. Gwnaethant weithio diwrnodau hir gan gefnu ar eu bywydau eu hunain i gefnogi’r gymuned mewn amrywiaeth o ffyrdd. Roedd hyn yn cynnwys cludo plant er mwyn sicrhau eu bod yn gallu mynd i’r ysgol, rhoi bwyd a deunyddiau hanfodol eraill i deuluoedd a sicrhau eu bod ar gael 24/7 i gynnig help a chyngor i’r gymuned.

Yn ystod y cyfnod hwn, daeth yr ysgol, o dan eu gofal, yn fan diogel a chyfeiriodd y gymuned atynt am gyngor, sicrwydd a chymorth. Roedd lles y staff yn yr ysgol hefyd yn bwysig iawn iddynt a chydnabuwyd yr effaith emosiynol ar gymuned gyfan yr ysgol. Darparwyd cymorth hanfodol hefyd i deulu a gollodd ei fam yn sydyn gan fod pedwar o’r plant yn ddisgyblion yn yr ysgol. Michelle a Catherine yw canolbwynt Lansdowne a nhw sy’n ei gwneud hi’n gymuned ddiogel, gariadus, gefnogol ac uchelgeisiol.