Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Ysbryd y gymuned

Mae Mohammed (Mo) yn “Fwslim a Chymro balch” o Gaerdydd. Yn Arweinydd ymroddedig yng Nghyngor Mwslimaidd Cymru, mae wedi gwasanaethu ei gymuned yn ddiflino ers dros 15 mlynedd. Mae ei waith, y tu ôl i'r llenni ac yn gyhoeddus, yn gwbl wirfoddol; ei ysgogiad yw ei ymroddiad anhunanol i gymdeithas.

Fel Cyfarwyddwr Prosiectau Ieuenctid Cyngor Mwslimaidd Cymru, mae Mo wedi chwarae rhan ganolog yn llofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog, i ffurfio partneriaeth gref a pharhaus gyda'r fyddin. Aeth ati i ymestyn y cyfamod er mwyn cynnwys pob mosg sy’n aelod o’r Cyngor.

Mae Mo hefyd yn arwain rhaglen ‘iLead’, sef prosiect ieuenctid blaenllaw ar gyfer Mwslimiaid ifanc 16 i 24 oed. Mae'r rhaglen yn rhoi cyfleoedd eithriadol i fyfyrwyr sy'n gwella eu cyflogadwyedd, gan ddatblygu eu hunaniaeth grefyddol ar yr un pryd

Mae Mo wedi bod yn allweddol wrth sefydlu mosgiau newydd mewn ardaloedd lle mae’r boblogaeth Fwslimaidd yn tyfu. Yn benodol, arweiniodd ymdrechion i godi dros £90,000 i adeiladu mosg mawr ei angen ym Mhontypridd.

Mae gwaith anhunanol Mo, o brosiectau ieuenctid i ddeialog rhyng-ffydd ac ymgysylltu â'r gymuned wedi dod â phobl at ei gilydd gan helpu i lunio cymdeithas fwy cynhwysol a chyd-gefnogol.