Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Ysbryd y gymuned

Mae Mollie Roach yn byw yn Sir Benfro, a hi yw sylfaenydd yr elusen gofrestredig Gofal Solfach sy’n cynnig gwasanaeth gwirfoddol i ddarparu cymorth a gofal cymdeithasol i bobl hŷn a’u teuluoedd.

Yn dilyn gyrfa fel athrawes Saesneg, ymddeolodd Mollie a’i gŵr i gartref y teulu yn Solfach, ac yno daeth yn brysur yn y gymuned – ymunodd â Chyngor Cymuned Solfach a gwasanaethu ar amrywiaeth o bwyllgorau. Gwelodd fod poblogaeth Solfach yn heneiddio, a bod nifer o’r bobl hynny heb deulu yn byw gerllaw, ac yn ei chael hi’n anodd cael mynediad at wasanaethau cymdeithasol a gofalwyr parhaol mewn cymuned wledig. Roedd Mollie’n teimlo’n gryf y dylai fod yn bosibl trefnu gwell gofal yn lleol a sicrhau bod pobl yn teimlo mwy o gysylltiad â’u cymuned.

Arweiniodd Mollie’r gwaith codi arian ar gyfer prosiect peilot 2 flynedd i sefydlu cwmni gofal cymdeithasol lleol, gyda chefnogaeth grŵp o wirfoddolwyr. Dechreuodd Gofal Solfach weithredu yn 2015, ac erbyn heddiw mae’n cefnogi dros 800 o bobl yn y plwyf. Mae 45 o wirfoddolwyr yn cynnig gwasanaethau gwirfoddol – gan ddarparu cludiant, siopa, trefnu digwyddiadau i fynd i’r afael ag unigedd, yn ogystal â threfnu gofal seibiant i ofalwyr teuluol.

Ystyrir Gofal Solfach fel elusen arloesol sy’n darparu gwasanaethau yn y gymuned, ac mae bellach yn mentora cymunedau eraill er mwyn eu helpu i sefydlu prosiectau tebyg.