Neidio i'r prif gynnwy

gwobr Person Ifanc enillydd 2021

Mae Molly Fenton yn ddisgybl Safon Uwch 18 oed o Gaerdydd a sefydlodd Ymgyrch ‘Love Your Period’ i roi terfyn ar dlodi a stigma mislif i ddisgyblion ysgol ledled Cymru. Yn ystod cyfnod o amser i ffwrdd o'r ysgol oherwydd afiechyd, cafodd Molly ei hysbrydoli gan yr ymgyrchydd tlodi mislif Amika George i ddechrau ymgyrch debyg yng Nghymru. Ar ôl dychwelyd i'r ysgol cafodd gefnogaeth gan ei phennaeth a'r uwch-dîm rheoli ar gyfer ei hymgyrch i sefydlu clwb yn yr ysgol, a rhoddodd sgyrsiau i grwpiau blwyddyn amrywiol. Mae gan ei hymgyrch gyfryngau cymdeithasol dros 4,000 o ddilynwyr o bob rhan o'r byd. Mae'n siarad yn rheolaidd mewn digwyddiadau ledled y DU ac mae bellach yn gweithio gyda'i chlwb Rotari lleol, Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru ar fentrau tlodi mislif yn ogystal ag ymgyrchu yn erbyn cynhyrchion mislif plastig. Hefyd, rhoddodd Molly gynnyrch i weithwyr y GIG yn ystod pandemig COVID-19.