Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Busnes

Rebecca Morgan sydd yn berchen ar Morgan’s Wigs, sef gwasanaeth wigiau i gleifion sy’n colli eu gwallt o ganlyniad i alopesia, triniaeth cemotherapi a chyflyrau meddygol eraill sy’n golygu colli gwallt.

Wedi ei leoli ym Mhrestatyn, Gogledd Cymru, ac yng Nghaer, mae Morgan’s Wigs yn cynnig gwasanaeth proffesiynol ac empathig gyda nifer o ddatrysiadau a dewisiadau sydd yn cael eu teilwra i bob unigolyn.

Mae’r gwasanaeth yn mynd o nerth i nerth ac wedi trawsnewid y gwasanaeth wigiau oherwydd colli gwallt i ddynion, menywod a phlant yng Ngogledd Cymru a Lloegr.

Gan weithio gyda’r GIG ac elusennau i helpu cleifion canser a phlant sy’n colli eu gwallt, mae Morgan’s Wigs yn mynd y tu hwnt i ddisgwyliadau er mwyn gwneud i’w cleientiaid deimlo’n gyfforddus yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Yn ystod pandemig COVID, fe wnaeth Rebecca sicrhau bod y gwasanaeth ar gael gan gynnig ymgynghoriadau fideo yn ystod y dydd a’r nos i’r rheini oedd yn colli gwallt o ganlyniad i COVID, straen, a thriniaeth canser. Darparodd Rebecca wasanaeth cwnsela a chymorth i’r rheini a gafodd eu heffeithio a chludodd wigiau i gleifion gan basio wigiau drwy ffenestri eu cartrefi er mwyn asesu a oeddynt yn eu ffitio.

Parhaodd Rebecca i gefnogi cleientiaid oedd wedi colli eu gwallt, eu haeliau a’u hamrannau drwy gynnig gofal chroen a chyngor colur, a bu’n brwydro’n galed i sicrhau bod y gwasanaeth yn ôl i’w drefn arferol cyn gynted â phosibl.