Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Gweithwyr hanfodol

Mae Muslim Doctors Cymru (MDC) yn grŵp gwirfoddol o weithwyr iechyd proffesiynol sy'n rhoi o'u hamser i hybu iechyd a lles yn eu cymunedau lleol er mwyn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd ar gyfer y bobl fwyaf agored i niwed.

Maent yn gweithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru, byrddau Iechyd lleol a sefydliadau'r trydydd sector i ddatblygu mentrau wedi'u targedu.

Maent yn cynnal 'Hybiau Iechyd' yn rheolaidd mewn canolfannau cymunedol a mosgiau, gan gynnig sgrinio ar gyfer ffibriliad atrïaidd, TB a hepatitis C, brechiadau ffliw, yn ogystal â chymorth a chyngor ar bynciau fel imiwneiddio plant, stopio ysmygu ac iechyd meddwl.

Mae MDC hefyd wedi ceisio ehangu eu cynulleidfa trwy gynnal gweminarau a rhannu fideos a ffeithluniau ar-lein ar bynciau iechyd cyhoeddus.

Maent wedi partneru â Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG i godi ymwybyddiaeth o roi organau ymhlith cymunedau lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru. Gwnaethant hyn drwy gynhyrchu fideos cyfathrebu mewn 10 gwahanol iaith gyda gweithwyr iechyd proffesiynol, cleifion ac arweinwyr ffydd. Maent hefyd wedi cydweithio ag Ymddiriedolaeth Anthony Nolan i sefydlu gweminarau bôn-gelloedd a chlinigau mewn mosgiau. O ganlyniad mae bron i 100 o bobl o gefndiroedd ethnig wedi cofrestru i fod yn rhoddwyr bôn-gelloedd.